Jacqueline Pascal | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 4 Hydref 1625 ![]() Clermont-Ferrand ![]() |
Bu farw | 4 Hydref 1661 ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | bardd, lleian, ysgrifennwr, athronydd ![]() |
Tad | Étienne Pascal ![]() |
Lleian a bardd Ffrengig oedd Jacqueline Pascal (4 Hydref 1625 – 4 Hydref 1661). Roedd yn chwaer yr athronydd a'r mathemategydd Blaise Pascal. Dechreuodd farddoni pan oedd yn wyth oed a sgwennodd ddrama bum act pan oedd yn unarddeg oed.[1]
Oherwydd dylanwad ei brawd, cafodd droedigaeth i fath o Babyddiaeth Sistersiaidd o'r enw Janseniaeth' a oedd yn boblogaidd yn Ffrainc ac a oedd yn gweld y pechod gwreiddiol, rhagordeiniaeth a gras Duw fel canolbwynt eu ffydd. Daeth yn lleian yn 1652, yn Abaty Port-Royal ym Mharis.[2]
Fe'i ganed yn Clermont-Ferrand, dinas yn Rhanbarth Auvergne, yng nghanol Ffrainc.